Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 31 Ionawr 2017

Amser y cyfarfod: 13.30
 


47(v3)  

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys 1

 

I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:

 

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cyrmu): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi yn dilyn cau swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli, gan arwain at golli 146 o swyddi?

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys 2

 

I’r Prif Weinidog:

 

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd deuol?

 

</AI3>

<AI4>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI4>

<AI5>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Llywodraeth Leol

(60 munud)

 

</AI5>

<AI6>

4       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Yr Adolygiad Hazelkorn o Addysg yng Nghymru

(45 munud)

 

Dogfen Ategol:

Adolygiad o Reoleiddio a Chynnal Trosolwg o Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol yng Nghymru

 

</AI6>

<AI7>

5       Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017

(15 munud)

 

NDM6218 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2016.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

</AI7>

<AI8>

6       Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

(15 munud)

 

NDM6219 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

 

</AI8>

<AI9>

7       Dadl:  Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016

(60 munud)

 

NDM6217 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a 

2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.

Dogfen Ategol 
Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.

'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2'

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.

 

</AI9>

<AI10>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Chwefror 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>